Wales’ National Parks welcome report on their Planning Service

The report identifies key areas for measuring success and shows that progress has been made in all areas.  Specific attention is drawn to:
(1)     National Parks approve the same percentage of applications as other Local Planning Authorities
(2)     National Parks are performing better in some types of applications than a number of other rural Local Planning Authorities
(3)     National Parks have improved their pre-application support and information
(4)     There has been on average a 24% improvement across all three National Parks in the time it takes to process applications

The report acknowledges that there are challenges ahead most notably the drop in the number of applications received as a result of the economic downturn and the knock on effect on income.

Cllr Eric Saxon, Chairman of Bannau Brycheiniog National Park Authority, said on behalf of the three Welsh National Parks:  “We welcome this report.  This is a positive report which acknowledges the excellent improvement in performance made over the past 18 months.  The report dispels the myth that National Parks are more likely to refuse a planning application than other Local Planning Authorities and acknowledges that we perform better in some type of applications. Particularly encouraging from my perspective is that Price Waterhouse Cooper have commended our governance arrangements and their report points to several examples of good practice.”

Aneurin Phillips, Chief Executive of Snowdonia National Park Authority said:  “Price Waterhouse Cooper has completed a challenging undertaking. This is groundbreaking work here in Wales. The report concludes that the Welsh National Parks are improving and that they are delivering their statutory purposes in a way that is positive and supportive.”  

-ENDS-

1. In 2009 the three National Park Authorities commissioned Price Waterhouse Cooper to undertake a Value for money Study. The study has been jointly funded by the Welsh National Parks, CCW and the WLGA.
2. The report was commissioned in response to a report from the Welsh Audit Office.
3. For further information, contact:
Aneurin Phillips (General Enquiries and Snowdonia NPA – 01766 770274)
Chris Morgan (Bannau Brycheiniog NPA – 01874 620447)
Janet O’Toole (Pembrokeshire Coast NPA – 0845 345 7275)

26 Ionawr 2011
I’w ryddhau ar unwaith

PARCIAU CENEDLAETHOL CYMRU YN CROESAWU ADRODDIAD AR EU GWASANAETHAU CYNLLUNIO.

Mae tri Pharc Cenedlaethol Cymru yn croesawu adroddiad gan Price Waterhouse Cooper ar eu Gwasanaethau Cynllunio. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at “dystiolaeth o welliannau arwyddocaol a wnaed dros y 18 mis diwethaf” a dengys fod gwasanaethau cynllunio’r Parciau Cenedlaethol yn cymharu’n ffafriol â gwasanaethau cynllunio gwledig eraill yng Nghymru.

Ar gyfer mesur llwyddiant, mae’r adroddiad yn nodi meysydd allweddol i’w defnyddio a dengys yr adroddiad fod cynnydd wedi bod yn yr holl feysydd. Rhoddir sylw arbennig i’r canlynol:

(1)     Mae Parciau Cenedlaethol yn caniatáu’r un canran o geisiadau ag Awdurdodau Cynllunio Lleol eraill
(2)     Mae Parciau Cenedlaethol yn perfformio’n well wrth ddelio â rhai mathau o geisiadau o’u cymharu â nifer o Awdurdodau Cynllunio Lleol gwledig eraill
(3)     Mae Parciau Cenedlaethol wedi gwella eu darpariaeth o wybodaeth a’u cefnogaeth i ymgeiswyr cyn iddyn nhw ddechrau ar y broses o wneud cais.
(4)     Ar gyfartaledd, gwelwyd gwelliant o 24% ar draws y tri Pharc Cenedlaethol yn yr amser a gymer i brosesu ceisiadau.

Cydnabydda’r adroddiad fod sialensiau o’n blaenau, ac yn benodol y cwymp yn y nifer o geisiadau a dderbyniwyd o ganlyniad i’r dirywiad economaidd a’i effaith gynyddol ar incwm.

Ar ran y Parciau Cenedlaethol Cymreig, dywedodd y Cyng. Eric Saxon, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog,
“ Croesawn yr adroddiad hwn. Mae’n adroddiad cadarnhaol sy’n cydnabod y gwelliant rhagorol a wnaed dros y 18 mis diwethaf. Mae’r adroddiad yn dryllio’r gred fod Parciau Cenedlaethol yn fwy tebygol i wrthod cais cynllunio nag unrhyw Awdurdod Cynllunio Lleol arall ac yn cydnabod ein bod ni’n perfformio’n well wrth ddelio â rhai mathau o geisiadau. Yn benodol ac yn galonogol o’n safbwynt i, mae Price Waterhouse Cooper wedi cymeradwyo ein trefn lywodraethol ac mae eu hadroddiad yn cyfeirio at sawl enghraifft o arfer da.”

Dywedodd Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
“Mae Price Waterhouse Cooper wedi cwblhau menter heriol. Mae’r gwaith yma wedi torri tir newydd yng Nghymru. Daw’r adroddiad i’r canlyniad fod Parciau Cenedlaethol Cymru yn gwella ac yn cyflawni eu pwrpasau statudol mewn modd sy’n gadarnhaol a chefnogol.”  

-ENDS-

Nodyn i Olygyddion:
1. Yn 2009 comisiynwyd Price Waterhouse Cooper gan y tri Awdurdod Parc Cenedlaethol  i gyflawni astudiaeth gwerth am arian. Cyd ariannwyd yr astudiaeth gan Barciau Cenedlaethol Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
2. Comisiynwyd yr adroddiad fel ymateb i gais gan Swyddfa Archwilio Cymru.
3. Am fanylion pellach cysylltwch â:
Aneurin Phillips (Ymholiadau Cyffredinol ac APCEryri – 01766 770274)
Chris Morgan (APCBannau Brycheiniog – 01874 620447)
Janet O’Toole (APCArfordir Penfro – 0845 345 7275)