Oherwydd y cyfnod hir o dywydd poeth, sych a’r defnydd sylweddol o ddŵr o Keepers Pond gan y Gwasanaeth Tân wrth ymateb i danau gwyllt diweddar, mae lefelau’r dŵr bellach wedi gostwng i lefel beryglus o isel.
Wrth i’r dŵr gilio, mae peryglon a gwrthrychau anhysbys wedi’u datgelu ar wely’r pwll, gan greu risgiau diogelwch difrifol. Er eich diogelwch eich hun, rhaid i chi beidio â mynd i mewn i’r dŵr o dan unrhyw amgylchiadau.
Mae’r cyfyngiad hwn yn berthnasol i bob gweithgaredd ar neu yn y dŵr, gan gynnwys nofio, padlfyrddio, caiacio, ac unrhyw weithgareddau eraill sy’n seiliedig ar y dŵr.
Er y bydd y maes parcio yn aros ar agor, ni chaniateir mynediad i’r pwll ei hun nes bod rhybudd pellach. Byddwn yn parhau i gasglu sbwriel ar y safle. Fodd bynnag, gofynnwn i ymwelwyr barchu’r ardal a pheidio â thynnu, tarfu nac ymyrryd ag unrhyw wrthrychau neu nodweddion a ddatgelir gan lefelau dŵr isel. Mewn partneriaeth â CADW, rydym yn atgoffa ymwelwyr bod Pwll Pen y Ffordd Goch yn Heneb Gofrestredig o arwyddocâd hanesyddol, a gall unrhyw aflonyddwch niweidio asedau treftadaeth pwysig.
Rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad wrth i ni weithio i ddiogelu diogelwch y cyhoedd a’r safle hanesyddol pwysig hwn. Bydd diweddariadau yn cael eu darparu wrth i’r sefyllfa newid.